YN YMDDANGOS
Addunedau’r Flwyddyn Newydd
Pryd oedd y tro diwethaf i chi roi cynnig ar rywbeth gwahanol?
Bydd llawer ohonom wedi gwneud addunedau wrth i’r flwyddyn newydd wawrio. Os un o’ch rhai chi oedd rhoi cynnig ar rywbeth newydd neu dreulio mwy o amser gyda’r teulu a ffrindiau, mae’n bosib bod gan Ganolfan Dŵr Gwyn Ryngwladol Caerdydd y cynnig perffaith i chi. Peidiwch â gadael i’r llwch ddechrau ffurfio ar eich addunedau – cewch afael yn eich anwyliaid ac ewch i CDGRC am eu cynnig Hwyl ar y Sul.